Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 1 Mai 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:08 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Steve Brown, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Kathryn Monk, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Dŵr Cymru Fergus O’Brien, Dŵr Cymru Julian Kirby, Cyfeillion y Ddaear Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Katherine Simmons, Deisebydd (Kyle’s Goal) Emma Wools, Deisebydd (Kyle’s Goal) Frances Gibbon Julie Smith, Headway Dr Cerilan Rogers, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Daniel Phillips, Pwyllgor Gwasanaethau lechyd Arbenigol Cymru Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Dr Heather Payne, Prif Swyddog Feddygol, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Dr Catherine Bochel, a oedd yn gwylio o’r oriel gyhoeddus.
2. P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod – trafod ymweliadau âsafleoedd a thystiolaeth a ddaeth i law ar 28 Chwefror
Cytunodd y Pwyllgor i gynhyrchu adroddiad byr ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt, ac i wneud cais i gael trafodaeth am y pwnc yn y Cyfarfod Llawn.
3. Deisebau newydd
3.1 P-04-384 Cysylltiad â’r M48 o’r B4245 Cil-y-Coed/Rogiet
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog.
3.2 P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog.
3.3 P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog.
3.4 P-04-388 Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Datgannodd y Cadeirydd fuddiant yn y pwnc gan ei fod yn gynghorydd lleol yn Nhalgarth.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu, unwaith eto, at Cadw i awgrymu iddo weithredu camau dros dro i ddiogelu adeiladau o’r fath nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i wneud cais bod camau diogelu dros dro yn cael eu gweithredu nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;
Ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bwysleisio’r ffaith bod y safle mewn ardal gadwraeth ac i ofyn bod unrhyw geisiadau cynllunio a gaiff eu derbyn yn diogelu adeiladau nodedig yn yr ardal gadwraeth.
4.2 P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth a ddaeth i law mewn perthynas â’r ddeiseb.
Datgannodd Joyce Watson fuddiant gan ei bod yn aelod o’r RSPB.
Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn hynt ei ohebiaeth gyda’r RSPB.
5. P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn – sesiwn dystiolaeth lafar
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd Dŵr Cymru i rannu manylion â’r Pwyllgor ynghylch dŵr wyneb a’i waith ar ddraenio cynaliadwy dinesig yn yr ardal.
Cytunodd y tystion i ymateb yn ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na chafwyd amser i’w gofyn yn y cyfarfod.
6. P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn dystiolaeth lafar
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd y tystion i rannu unrhyw ddata a dadansoddiad perthnasol o effaith y dirwasgiad ar lefel y gwastraff.
7. P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafodaeth
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Datgannodd Bethan Jenkins fuddiant gan iddi helpu i sefydlu’r gwasanaeth Headway ym Mhort Talbot.
8. Papurau i'w nodi - tystiolaeth bellach o effaith sŵn o dyrbinau gwynt
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.